Ein Swyddogion a'n Pwyllgorau
Rhagor am ein tîm
Mae tîm o Swyddogion a phwyllgorau yn rhedeg y blaid o ddydd i ddydd. Goruchwylir gwaith y Swyddogion a'r pwyllgorau gan Gynhadledd y Blaid, sy'n cwrdd ddwywaith y flwyddyn mewn cyfarfodydd sy’n agored i bob aelod.
Swyddogion y Blaid:
Llywydd y Blaid - Cadeirydd y Bwrdd a phrif gynrychiolydd cyhoeddus Aelodau'r Blaid.
Dirprwy Lywydd y Blaid - Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol, ac yn cynorthwyo Llywydd y Blaid i fod yn gynrychiolydd cyhoeddus o Aelodau'r Blaid.
Arweinydd y Blaid - yn gyfrifol am arweinyddiaeth wleidyddol y blaid a hyrwyddo ei hachos yng Nghymru.
Dirprwy Arweinydd y Blaid ac Arweinydd y Grŵp Seneddol (San Steffan) - yn gyfrifol am gydlynu gwaith Grŵp Seneddol y Blaid (San Steffan) a chynrychioli’r Grŵp Seneddol o fewn y blaid.
Y Swyddog Gweithredol dros Ymgyrchoedd a Chyfathrebu - Cadeirydd y Pwyllgor Ymgyrchoedd a Chyfathrebu ac yn gyfrifol am wneud yn siŵr bod y pwyllgor yn cyflawni ei gyfrifoldebau.
Y Swyddog Gweithredol ar gyfer Datblygu Polisi - Cadeirydd y Pwyllgor Datblygu Polisi ac yn gyfrifol am sicrhau bod y pwyllgor yn cyflawni ei gyfrifoldebau.
Y Swyddog Gweithredol ar gyfer Datblygu Aelodaeth - Cadeirydd y Pwyllgor Datblygu Aelodaeth ac yn gyfrifol am sicrhau bod y pwyllgor yn cyflawni ei gyfrifoldebau.
Y Swyddog Gweithredol ar gyfer Cyllid ac Adnoddau - Trysorydd cofrestredig y blaid. Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau ac yn gyfrifol am wneud yn siŵr bod y pwyllgor yn cyflawni ei gyfrifoldebau.
Trysorydd y Blaid - Yn gyfrifol am arwain gweithgareddau codi arian y blaid.
Y Swyddog Amrywiaeth - Yn gyfrifol am gefnogi’r blaid i ystyried anghenion cymunedau amrywiol a gweithredu ar sail hynny.
Pwyllgorau'r Blaid:
Y Bwrdd - yn gyfrifol am gynnal trosolwg strategol a chyfeiriad y blaid.
Y Pwyllgor Ymgyrchoedd a Chyfathrebu - yn gyfrifol am gynnal ymgyrchoedd, dewis ymgeiswyr a phresenoldeb y blaid yn y cyfryngau.
Y Pwyllgor Datblygu Polisi - yn gyfrifol am ddatblygu polisïau'r blaid.
Y Pwyllgor Datblygu Aelodaeth - yn gyfrifol am recriwtio aelodau newydd, a chefnogi aelodau gan gynnwys ymgeiswyr, ymgyrchwyr a'r rhai sy'n gysylltiedig â rhedeg pleidiau lleol.
Y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau - yn gyfrifol am reoli cyllid ac adnoddau'r blaid.
Pwyllgor y Gynhadledd - yn gyfrifol am drefnu cyfarfodydd Cynhadledd y Blaid, gan gynnwys gosod yr agenda.
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol - yn gyfrifol am gynnal cyfansoddiad y blaid, gan gynnwys cynnig diwygiadau i'w gadw'n gyfoes ac yn berthnasol.
Polisi Datgan Buddiannau
Mae gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru bolisi Datgan Buddiannau i atal unrhyw wrthdaro posibl mewn buddiannau gan unigolion rhwng eu rôl fel aelodau o bwyllgorau neu staff Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a'u buddiannau preifat neu deuluol neu eu cysylltiad â sefydliadau gwirfoddol neu gymunedol eraill, awdurdodau cyhoeddus, sefydliadau masnachol neu gyrff eraill.
Darllenwch y Polisi Datgan Buddiannau