Byddwch yn Ymgeisydd
Mae bod yn ymgeisydd yn ffordd rymus ac effeithiol o ddod â newid yn eich ardal leol, Cymru a'r DU.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir: nid oes y fath beth ag aelod nodweddiadol o Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru yn y Senedd neu San Steffan. Mae'r blaid am fanteisio ar eich cefndir a'ch doniau unigryw chi!
Efallai eich bod wedi bod yn gwneud gwaith gwirfoddol, magu teulu, neu'n gwneud swydd nad yw'n ymwneud â gwleidyddiaeth yn uniongyrchol. Byddwn yn gwerthfawrogi eich sgiliau trosglwyddadwy.
Mae dau gam i'r broses o fod yn ymgeisydd:
1. Bod yn Ymgeisydd Cymeradwy: Mae ein proses gymeradwyo wedi'i chynllunio i fod yn gynhwysol, tryloyw a chlir. Mae'n asesu cymwyseddau a sgiliau yn hytrach na chymwysterau a phwy rydych chi'n eu hadnabod.
2. Cael eich dewis ar gyfer etholaeth: Mae ein proses ddethol yn caniatáu i aelodau benderfynu pwy fydd eu hymgeisydd lleol. Cewch hyd i hysbysebion ar gyfer y rolau sydd ar gael ar hyn o bryd ar waelod y dudalen hon.
Gwneud cais i fod yn Ymgeisydd Cymeradwy
Mae tri cham i'r broses o wneud cais. Yn gyntaf, gofynnwn i chi lenwi ffurflen gais fer a'i dychwelyd. Byddwn wedyn yn gofyn i chi sefyll prawf llyfr agored ar-lein am bolisïau. Os byddwch yn pasio'r prawf hwn (cewch ailsefyll unwaith), fe'ch gwahoddir i Ddiwrnod Asesu ymgeisydd.
Mae'r diwrnod wedi'i rannu'n bedair rhan ac yn gymysgedd o ymarferion ysgrifenedig a llafar. Mae'r panel diduedd o aseswyr yn dod â'ch canlyniadau ynghyd ar ddiwedd y dydd, a chewch y canlyniad o fewn pythefnos.
I osgoi unrhyw ragfarn, ni fydd unrhyw un sy'n eich asesu yn gweld eich ffurflenni cyn y diwrnod cymeradwyo. Cewch eich marcio ar sail eich perfformiad ar y diwrnod yn unig.
Y cais yw'r sylfaen i unrhyw aelod sydd am sefyll yn etholiadau'r Senedd a San Steffan, ac mae hefyd y sylfaen i ymgeiswyr sy'n dymuno sefyll ar gyfer rolau: Maer, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, yn Senedd yr Alban a Chynulliad Llundain.
Dechrau arni
Mae'r arweiniad canlynol yn rhoi gwybodaeth glir a manwl am sut i ddechrau arni a beth i'w ddisgwyl.
Bod yn Ymgeisydd Seneddol: Gwybodaeth ac Arweiniad
Barod i wneud cais?
Bydd angen i chi lenwi ein ffurflen gais.
Cost
Codir ffi weinyddol o £75 i wneud cais i fod yn ymgeisydd. Dylid talu'r ffi hon wrth wneud y cais.
Gwneud cais i gael eich dewis ar gyfer etholaeth
Dylai ymgeiswyr cymeradwy wneud cais i'r Swyddog Canlyniadau pan fydd etholaethau'n hysbysebu ar gyfer ymgeiswyr.