Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn credu y dylai pobl fod â rheolaeth dros eu bywydau a’u hiechyd eu hunain ac mae hynny’n golygu y dylai pawb gael y gofal sydd ei angen arnynt, pan fydd ei angen arnynt, lle mae ei angen arnynt.
Mae pawb yn haeddu gofal cymdeithasol o ansawdd uchel pan fydd ei angen arnynt. Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol eisiau i bawb allu byw'n annibynnol a chydag urddas.
Mae pawb yn haeddu teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain. Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn atal trosedd ac yn adeiladu cymunedau lle gall pobl wir deimlo'n ddiogel.
Mae diogelu ein hamgylchedd naturiol gwerthfawr wrth wraidd ymagwedd y Democratiaid Rhyddfrydol. Dylai pawb allu mwynhau mannau gwyrdd agored, afonydd glas glân a harddwch arfordir Prydain.
Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn sefyll dros ffermwyr Prydain ac yn sicrhau bod pawb yn gallu cael bwyd fforddiadwy, iach a maethlon, wedi'i gynhyrchu i safonau lles ac amgylcheddol uchel.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwybod bod cartref yn anghenraid ac yn sylfaen i bobl adeiladu eu bywydau arni. Felly byddwn yn sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at dai sy’n diwallu eu hanghenion.
Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn gwella cysylltedd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol tra’n hybu’r economi, diogelu’r amgylchedd a gwella iechyd y cyhoedd.
Mae treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog a bywiog y DU yn drysor cenedlaethol.Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn buddsoddi yn ein cyfalaf diwylliannol ac yn meithrin y genhedlaeth nesaf o dalent.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol am ddechrau atgyweirio'r difrod sydd wedi'i wneud gan y llif cyson o sleze Ceidwadol, a dod â'r oes o esgeulustod i ben.
Mae angen i Brydain sefyll ar lwyfan y byd dros y gwerthoedd rhyddfrydol hanfodol hynny sy’n gonglfaen i’n cymdeithas: democratiaeth, rhyddid, hawliau dynol a rheolaeth y gyfraith.
Mae’r maniffesto hwn yn nodi polisïau a blaenoriaethau’r Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan. Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn gosod polisi ar faterion datganoledig sy’n gyfrifoldeb i Senedd Cymru ac yn cyhoeddi maniffesto manwl cyn pob etholiad i'r Senedd. Mae cyfeiriad eang polisi ar faterion datganoledig megis iechyd ac addysg wedi’u nodi’n gryno yn y maniffesto hwn. Mae hyn yn arbennig o wir lle mae maniffesto’r DU yn cynnwys cynigion ariannu a fydd yn cynhyrchu incwm ychwanegol i Lywodraeth Cymru drwy symiau canlyniadol Barnett neu amddiffyniadau cyllid.
Derbyn diweddariadau ebost...
This website uses cookies
Like most websites, this site uses cookies. Some are required to make it work,
while others are used for statistical or marketing purposes. If you choose not
to allow cookies some features may not be available, such as content from other
websites. Please read our Cookie Policy for more information.