Llywydd y Blaid
Tim Sly yw Llywydd y Blaid
Rhagor am Tim:
Ymunodd Tim â'r blaid yn Abertawe ym 1979 a bu’n aelod o Gyngor Bwrdeistref Halton. Bu hefyd yn ymgeisydd yn Wrecsam yn etholiadau'r Senedd a San Steffan.
Mae Tim yn rhedeg cwmni technolegau gwyrdd ac mae wedi bod mewn rolau arwain ar draws ystod o sefydliadau nid-er-elw yn y DU, UDA ac Ewrop.
Mae bellach yn Llywydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ac mae'n cadeirio Bwrdd Cymru.
Rolau:
- Llywydd y Blaid
- Aelod o'r Bwrdd
- Aelod o'r Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau
Plaid leol:
- Wrecsam a De Clwyd
Mae Llywydd y Blaid yn gyfrifol am y canlynol:
- Bod yn brif gynrychiolydd cyhoeddus Aelodau'r Blaid;
- Cadeirio cyfarfodydd a gwneud yn siŵr bod y Bwrdd yn gweithredu’n briodol;
- Bod yn bennaf gyfrifol am gyflawni dyletswyddau'r Bwrdd;
- Rhoi gwybod i’r Gynhadledd am ei weithgareddau, a rhai'r Bwrdd;
- Gwneud yn siŵr bod unrhyw weithgorau a sefydlwyd gan y Bwrdd yn cael gwybod am unrhyw benderfyniadau perthnasol a wneir gan y Bwrdd neu'r Pwyllgorau;
- Gwneud yn siŵr bod anghenion cymunedau amrywiol yn cael eu hystyried a bod camau’n cael eu cymryd ar sail hynny yn ei holl waith;
- Gweithio gyda'r Swyddogion Gweithredol, aelodau'r Bwrdd, cynrychiolwyr etholedig ac aelodau'r blaid er budd yr hyn sydd orau i’r blaid;
- Bod yn ddeiliad cyllideb ar gyfer gweithgareddau'r Bwrdd, a sicrhau cydymffurfiaeth ag unrhyw weithdrefnau ariannol a roddir ar waith gan y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau; a
- Cyflawni swyddogaethau eraill a ddyrennir iddo gan y Gynhadledd neu'r Cyfansoddiad.
Cewch ragor o fanylion yng nghyfansoddiad y blaid.
Cysylltwch â Tim:
Ebost: tim.sly@welshlibdems.org.uk