Dirprwy Lywydd y Blaid
Y Cynghorydd Sam Bennett yw Dirprwy Lywydd y Blaid
Rhagor am Sam
Mae Sam wedi bod yn ymgyrchydd gweithgar dros Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru yng Ngheredigion, Brycheiniog a Maesyfed ac erbyn hyn yn Abertawe a Gŵyr.
Sam oedd Cadeirydd y Rhyddfrydwyr Ifanc, ac IR Cymru wedi hynny, rhwng 2011 a 2014. Yn 2019. Sam oedd prif ymgeisydd y blaid yng Nghymru yn etholiadau Senedd Ewrop, ac arweiniodd ymgyrch Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn erbyn Brexit.
Erbyn hyn, mae’n gynghorydd ar Gyngor Abertawe. Enillodd ward y Glannau drwy gymryd 60% o'r bleidlais gan gipio’r ward newydd gyntaf i’r blaid yn Abertawe a Gŵyr ers 2008.
Rolau:
- Dirprwy Lywydd y Blaid
- Aelod o'r Bwrdd
- Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol
- Aelod o'r Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau
- Aelod o Bwyllgor y Gynhadledd
Plaid leol:
- Abertawe a Gŵyr
Cyfrifoldebau Dirprwy Lywydd y Blaid:
- Cynorthwyo'r Llywydd i fod yn gynrychiolydd cyhoeddus ar ran aelodau'r blaid;
- Cadeirio’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol;
- Bod yn bennaf gyfrifol am gyflawni dyletswyddau'r pwyllgor hwn;
- Adrodd yn ôl mewn modd amserol am ei weithgareddau, a rhai'r pwyllgor y mae’n gadeirydd arno, yn ogystal ag adrodd yn ôl i aelodau'r Bwrdd ar ôl pob cyfarfod pwyllgor, a'r Gynhadledd yn flynyddol;
- Gwneud yn siŵr bod aelodau’r pwyllgor y mae’n gadeirydd arno, ac unrhyw weithgorau a sefydlwyd gan y pwyllgor hwn, yn cael gwybod am unrhyw benderfyniadau perthnasol a wneir gan y Bwrdd neu Bwyllgorau eraill;
- Gwneud yn siŵr bod anghenion cymunedau amrywiol yn cael eu hystyried a bod camau’n cael eu cymryd ar sail hynny yn eu holl waith;
- Gweithio gyda'r Llywydd, y Swyddogion Gweithredol, aelodau'r Bwrdd, cynrychiolwyr etholedig ac aelodau'r blaid er budd yr hyn sydd orau i'r blaid;
- Bod yn ddeiliad cyllideb ar gyfer gweithgareddau ei bwyllgor, a sicrhau cydymffurfiaeth ag unrhyw weithdrefnau ariannol a roddir ar waith gan y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau; a
- Cyflawni swyddogaethau eraill a ddyrennir iddo gan y Gynhadledd neu'r Cyfansoddiad.
Cewch ragor o fanylion yng nghyfansoddiad y blaid.
Cysylltwch â Sam:
Ebost: sam.j.bennett90@gmail.com