Y Swyddog Gweithredol ar gyfer Cyllid ac Adnoddau
Nicholas Beckett yw’r Swyddog Gweithredol ar gyfer Cyllid ac Adnoddau
Rolau:
- Y Swyddog Gweithredol ar gyfer Cyllid ac Adnoddau
- Aelod o'r Bwrdd
- Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau
Plaid leol:
- Sir Gaerfyrddin
Cyfrifoldebau'r Swyddog Gweithredol ar gyfer Cyllid ac Adnoddau:
- Bod yn gyfrifol am gyllideb gyffredinol a chyllid y blaid;
- Bod yn drysorydd cofrestredig y blaid at ddibenion Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000;
- Bod yn gyfrifol am gydymffurfiaeth y Blaid â Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000;
- Cadeirio cyfarfodydd y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau a gwneud yn siŵr bod y pwyllgor yn gweithredu’n briodol;
- Bod yn bennaf gyfrifol am gyflawni dyletswyddau'r pwyllgor hwn;
- Adrodd yn ôl mewn modd amserol am ei weithgareddau, a rhai'r pwyllgor y mae’n gadeirydd arno, yn ogystal ag adrodd yn ôl i aelodau'r Bwrdd ar ôl pob cyfarfod pwyllgor, a'r Gynhadledd yn flynyddol;
- Gwneud yn siŵr bod aelodau’r pwyllgor y mae’n gadeirydd arno, ac unrhyw weithgorau a sefydlwyd gan y pwyllgor hwn, yn cael gwybod am unrhyw benderfyniadau perthnasol a wneir gan y Bwrdd neu Bwyllgorau eraill;
- Cyfrannu'n llawn at bennu strategaeth y blaid ar lefel y Bwrdd, yn enwedig o ran eu dyletswyddau penodol eu hunain;
- Gwneud yn siŵr bod anghenion cymunedau amrywiol yn cael eu hystyried a bod camau’n cael eu cymryd ar sail hynny yn eu holl waith;
- Gweithio gyda'r Llywydd, Swyddogion Gweithredol eraill, aelodau'r Bwrdd, cynrychiolwyr etholedig ac aelodau'r blaid er budd yr hyn sydd orau i'r blaid;
- Cyflawni swyddogaethau eraill o’r fath a ddyrennir iddo gan y Gynhadledd neu'r
Cewch ragor o fanylion yng nghyfansoddiad y blaid.
Cysylltwch â Nicholas:
Ebost: nick@carmslibdems.wales