Dirprwy Arweinydd y Blaid ac Arweinydd y Grŵp Seneddol (San Steffan)
Y Farwnes Christine Humphreys yw Dirprwy Arweinydd ac Arweinydd Grŵp Seneddol y Blaid yn San Steffan
Rhagor am y Farwnes Humphreys
Y Farwnes Humphreys o Lanrwst yw Dirprwy Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ac Arweinydd Grŵp Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn Nhŷ'r Arglwyddi. Mae Christine wedi bod yn Llywydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, a chyn hynny, yn Aelod o Gynulliad Cymru dros Ranbarth Gogledd Cymru o 1999 – 2001 lle bu'n llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol dros Gymru ar yr Economi, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd. Roedd Christine yn arfer bod yn gynghorydd Democratiaid Rhyddfrydol ar Gyngor Bwrdeistref Bae Colwyn hefyd.
Cyn hynny, roedd hi'n athrawes Saesneg ac yn Bennaeth Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol mewn ysgol cyfrwng Cymraeg. Cafodd ei phenodi i Dŷ'r Arglwyddi ym mis Medi 2013.
Cyfrifoldebau Dirprwy Arweinydd y Blaid ac Arweinydd Grŵp Seneddol y Blaid yn San Steffan:
- Dirprwyo ar ran Arweinydd y Blaid;
- Cynrychioli Grŵp Seneddol y Blaid yn San Steffan; a
- Cydlynu gwaith Grŵp Seneddol y Blaid yn San Steffan gyda gwaith y blaid a grwpiau seneddol eraill.
Cewch ragor o fanylion yng nghyfansoddiad y blaid.