Trysorydd y Blaid
Mae swydd Trysorydd y Blaid yn wag ar hyn o bryd
Cyfrifoldebau Trysorydd y Blaid:
- Bod yn gyfrifol am arwain gweithgareddau codi arian y blaid;
- Rhoi gwybod am ei weithgareddau i'r Bwrdd, y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau, a'r Gynhadledd;
- Cyfrannu'n llawn at bennu strategaeth y blaid ar lefel y Bwrdd, yn enwedig o ran ei ddyletswyddau penodol eu hun;
- Gwneud yn siŵr bod anghenion cymunedau amrywiol yn cael eu hystyried a bod camau’n cael eu cymryd ar sail hynny yn eu holl waith;
- Gweithio gyda'r Llywydd, y Swyddogion Gweithredol, aelodau'r Bwrdd, cynrychiolwyr etholedig ac aelodau'r blaid er budd yr hyn sydd orau i'r blaid;
- Cyflawni swyddogaethau eraill a ddyrennir iddo gan y Gynhadledd neu'r Cyfansoddiad.
Cewch ragor o fanylion yng nghyfansoddiad y blaid.