Ariannu Amgueddfa Cymru yn Briodol
Oherwydd toriadau mewn cyllid gan Lywodraeth Lafur Cymru mae Amgueddfa Cymru yn wynebu argyfwng gyda swyddi'n cael eu dileu a bygythiadau y bydd yn rhaid i adeiladau eu cau.
Yn 2001, cyhoeddodd Gweinidog Diwylliant Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar y pryd, Jenny Randerson, fynediad am ddim i amgueddfeydd cenedlaethol Cymru.
Ers hynny mae gan bobl sy’n byw ar draws Cymru, yn ogystal ag ymwelwyr â’n gwlad, fynediad am ddim i saith amgueddfa i ddysgu am hanes Cymru, o gyfnod y Rhufeiniaid i’r rôl y mae diwydiannau fel mwyngloddio llechi a glo wedi’i chwarae wrth lunio Cymru o heddiw.
Mae methiant Llywodraeth Lafur bresennol Cymru i ariannu’r amgueddfeydd yn iawn wedi rhoi hyn mewn perygl.
Ers llawer gormod o amser mae treftadaeth, celfyddydau a diwylliant Cymru wedi cael eu gorfodi i gymryd sedd gefn pan ddaw’n fater o flaenoriaethu cyllid y llywodraeth.
Cefnogwch ein hymgyrch i atal Llywodraeth Lafur Cymru rhag rhyfela yn erbyn diwylliant.
Llofnodwch isod i i ychwanegu eich llais at alwadau Democratiaid Rhyddfrydol Cymru i ariannu Amgueddfa Cymru yn briodol i gadw pob safle ledled Cymru ar agor, ac am ddim i bawb.