Roger Roberts, Yr Arglwydd Roberts o Landudno
Yr Arglwydd Roberts o Landudno
Ganwyd Roger Roberts ar 23 Hydref 1935, ac fe’i addysgwyd yn Ysgol Ramadeg John Bright, Llandudno, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru a Choleg Methodistaidd Handsworth, Birmingham. Mae’r Arglwydd Roberts wedi bod yn Weinidog Methodistaidd ers 1957. Roedd yn Arolygydd Cylchdaith yn Llandudno am ugain mlynedd cyn dod yn Weinidog Eglwys Dewi Sant (Welsh United), Toronto.
Mae'r Parchedig Roberts wedi bod yn gadeirydd ar Bapur Newydd Llafar Aberconwy i'r Deillion, ymddiriedolwr y Gronfa ar gyfer Angen Dynol ac yn aelod o fwrdd y Ganolfan Ddiwygio. Mae'n arbennig o falch o fod wedi bod yn llywydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru am gyfnod hir, a Phlaid Ryddfrydol Cymru cyn hynny. Bu’r Parchedig Roberts yn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar Gyngor Bwrdeistref Aberconwy hefyd a bu’n ymgeisydd ar gyfer etholaeth Conwy bum gwaith.
Heddiw, mae ei waith yn cynnwys bod yn llywydd Cymru a’r Byd, llywydd anrhydeddus Bite The Ballot, y Democratiaid Rhyddfrydol dros Geiswyr Lloches (LD4SOS) a Chyfeillion Barka UK, ac is-lywydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.
Mae ei brif ddiddordebau seneddol yn cynnwys ymgysylltu pobl ifanc â democratiaeth, diweithdra, lloches, ymfudo a materion Cymreig. Mae'n ŵr gweddw gyda thri o blant ac mae’n byw yn Llandudno yn y Creuddyn, Cymru. 'Hel Tai' yw ei lyfr diweddaraf.