Yr Arglwydd Mike German
Yr Arglwydd German, Llefarydd yr Arglwyddi ar gyfer Adsefydlu a’r Gwasanaeth Prawf
Aeth Mike i Dŷ'r Arglwyddi ar 29 Mehefin 2010 a chafodd ei benodi'n Drysorydd y Blaid ym mis Rhagfyr 2015.
Cyn hynny, bu'n aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru dros ranbarth Dwyrain De Cymru (1999-2010), a bu'n Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn 2007-2008.
Bu Mike yn Ddirprwy Brif Weinidog Cymru yng nghlymblaid Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol rhwng 2000 a 2003. Bu hefyd yn Ysgrifennydd Datblygu Economaidd ac yn ddiweddarach, bu’n Weinidog Materion Gwledig a Chymru Dramor.
Cyn dod yn Aelod Cynulliad Cenedlaethol, bu Mike yn Gynghorydd ar Gyngor Caerdydd ers 1983. Bu'n Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar Gyngor y Ddinas rhwng 1983 a 1996 ac yn Gyd-arweinydd y Cyngor rhwng 1987 a 1991. Dyfarnwyd OBE iddo ym 1996 am ei wasanaeth cyhoeddus a gwleidyddol.
Rhwng 2015 a 2016, Mike oedd Llefarydd Gwaith a Phensiynau y Democratiaid Rhyddfrydol. Ym mis Hydref 2016, fe'i penodwyd yn Llefarydd yr Arglwyddi ar gyfer Adsefydlu, y Gwasanaeth Prawf a Diwygio Carchardai.
Mae diddordebau gwleidyddol Mike yn cynnwys datblygu sgiliau mewn cwmnïau bach a mawr yng Nghymru, materion cyfansoddiadol, llywodraeth leol, economi ac adfywio.