Jenny Randerson, Y Farwnes Randerson
Y Farwnes Randerson, Llefarydd Trafnidiaeth
Cafodd Jenny Randerson ei phenodi i Dŷ'r Arglwyddi ym mis Tachwedd 2010 a chymerodd ei sedd ym mis Ionawr 2011. Fe’i hurddwyd yn arglwyddes ar ôl bod yn Aelod Cynulliad i’r Democratiaid Rhyddfrydol dros Ganol Caerdydd am 12 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw bu'n Weinidog Chwaraeon, Diwylliant a'r Gymraeg rhwng 2000 a 2003 yn Llywodraeth Bartneriaeth y Democratiaid Rhyddfrydol / Llafur, a bu hefyd yn Ddirprwy Brif Weinidog Dros Dro am flwyddyn hefyd. Hi oedd y fenyw gyntaf o’r Democratiaid Rhyddfrydol i fod mewn rôl weinidogol yn y DU.
Yn rhan o’r Wrthblaid, bu’n llefarydd ar faterion Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, Cyfle Cyfartal, Addysg a'r Economi, a bu hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Busnes y Cynulliad a Phwyllgor Deddfwriaeth.
Cyn iddi gael ei hethol i'r Cynulliad, roedd Jenny yn gynghorydd ar Gyngor Caerdydd o 1983 tan 2000, yn cynrychioli Ward Cyncoed. Rhwng 1995 a 1999 bu'n arweinydd yr wrthblaid ar y Cyngor. O ran ei phroffesiwn, roedd Jenny yn ddarlithydd addysg bellach mewn economeg ac astudiaethau busnes.
Hi oedd Cadeirydd cyntaf Democratiaid Rhyddfrydol Cymru pan ffurfiwyd y blaid newydd ac roedd yn aelod o Bwyllgor Polisi Cymru am nifer o flynyddoedd yn ogystal ag aelod o'r Pwyllgor Polisi Ffederal. Bu'n gadeirydd Pwyllgor Ymgyrchoedd Cymru ac fe gyfarwyddodd etholiadau lleol 2004 ac Etholiad Cyffredinol 2005 yng Nghymru.
Hi oedd chwip y blaid yn Nhŷ’r Arglwyddi nes iddi gael ei phenodi'n Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru ym mis Medi 2012. Yn Swyddfa Cymru mae ei phortffolio yn cynnwys iechyd, addysg, cydraddoldeb, diwylliant, twristiaeth a materion gwledig.
Mae Jenny wedi byw yng Nghaerdydd am y rhan fwyaf o'i bywyd fel oedolyn. Mae hi'n fam ac yn fam-gu ac mae’n briod â darlithydd prifysgol.
Ym mis Ionawr 2015, cafodd Jenny ei phenodi’n aelod o Gabinet Etholiad Cyffredinol y Democratiaid Rhyddfrydol fel llefarydd y blaid dros Gymru.