Ehangu Gofal Plant am Ddim yng Nghymru
Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cynnig y dylid ariannu 30 awr o ofal plant yr wythnos ar gyfer pob plentyn yng Nghymru rhwng 9 mis a 4 oed.
Costau gofal plant yw un o'r heriau mwyaf i deuluoedd ledled Cymru ar hyn o bryd. A ninnau yng nghanol argyfwng costau byw, mae gofal plant drud hyd yn oed yn fwy o broblem nag ydoedd cyn y pandemig.
Bydd gwneud pethau'n haws i rieni gael gofal plant fforddiadwy a hyblyg o fudd i rieni, eu plant ac economi Cymru.
Mae costau brawychus gofal plant yn ffrwyno ein heconomi ac yn atal rhieni rhag bod yn rhan o'r gweithlu. Gan fod y costau mor uchel, mae'n fwy cost-effeithiol i lawer o rieni aros gartref na dychwelyd i'r gwaith. Ac mae gwledydd eraill yn dangos bod buddsoddi mewn gofal plant yn fuddsoddiad da sydd o fudd i'r economi yn gyffredinol.
Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu 30 awr o ofal plant yr wythnos ar gyfer y 90,000 o blant yng Nghymru rhwng 9 mis a 4 oed, beth bynnag fo statws gwaith y rhieni.
Mae ein cynllun llawn i ariannu gofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar yn llawn, ar gael YMA
Cefnogwch ein hymgyrch i Ehangu Gofal Plant am Ddim yng Nghymru
Llofnodwch isod i ychwanegu eich enw at ymgyrch Democratiaid Rhyddfrydol Cymru i sicrhau bod 30 awr o ofal plant ar gael am ddim bob wythnos i blant rhwng 9 mis a 4 oed yng Nghymru.