Dywedwch wrth y Torïaid: Cadwch eich addewid Band Eang!
Ers y pandemig, mae cymaint o'n bywydau - siopa, cwrdd â ffrindiau, gweithio ac addysg ein plant - yn digwydd ar-lein. Rydym yn dibynnu ar ein cysylltiad â'n rhyngrwyd.
Dyna pam mae penderfyniad y Llywodraeth Dorïaidd i gael gwared ar gynlluniau i greu band eang gwell mor warthus. Cawsom addewid o fand eang cyflym i bawb yn y DU erbyn 2025, ond mae'n amlwg bellach mai celwydd oedd hyn.
Ar adeg pan mae cymaint o fusnesau wedi symud ar-lein a'r ffordd y mae gweithio gartref yn arwain at gyfleoedd busnes y tu allan i ddinasoedd mawr, nid rhywbeth a fyddai'n ‘braf i'w gael’ yw cysylltiad band eang cyflym a fforddiadwy, mae'n hanfodol.
Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i ailymrwymo ar unwaith i ddarparu band eang cyflym i bawb erbyn 2025.
Cefnogwch ein hymgyrch dros Fand Eang Gwell
Llofnodwch isod i ychwanegu eich enw at ymgyrch Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn galw ar y Torïaid i beidio â thorri eu haddewid i ddarparu band eang gwell ym mhobman yng Nghymru.