Cynyddu'r Lwfans i Ofalwyr
Mae tua 350,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru yn dibynnu ar gyn lleied â £76.75 yr wythnos o Lwfans i Ofalwyr. Dyma'r budd-dal isaf o'i fath. Ac eto, rydym yn gwybod bod ein gofalwyr - hen ac ifanc - yn gwneud gwaith anhygoel i gefnogi eu hanwyliaid a'r rhai sydd o dan eu gofal.
Ar ben hynny, mae ein gweithwyr gofal cyflogedig wedi cael addewid o fonws o £500 am eu haberth yn ystod y pandemig. Nid yw nifer wedi derbyn eu taliad eu hyd, ac mae'r Torïaid wedi trethu'r rhai sydd wedi ei dderbyn.
Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn galw am gynnydd o £1,000 y flwyddyn mewn Lwfans Gofalwr ar unwaith, ac i'r taliadau bonws sy'n ddyledus i'n gofalwyr cyflogedig gael eu talu yn ddiymdroi.
Cefnogwch ein hymgyrch i Gynyddu'r Lwfans i Ofalwyr
Llofnodwch isod i ychwanegu eich enw at ymgyrch Democratiaid Rhyddfrydol Cymru sy'n galw am gynnydd ar unwaith o £1,000 y flwyddyn yn y Lwfans i Ofalwyr, ac i'r taliadau bonws sy'n ddyledus gael eu talu i'n gofalwyr cyflogedig ar unwaith.