Cefnogwch ein Rhaglen Inswleiddio Brys
Mae biliau ynni enfawr yn rhoi teuluoedd yng Nghymru o dan bwysau aruthrol, ac mae ein planed yn wynebu trychineb hinsawdd, ond mae'r diffyg ymateb gan Lafur Cymru yn syfrdanol.
Mae dadansoddiad o ffigyrau Llywodraeth Cymru yn dangos bod eu rhaglen insiwleiddio mor araf y byddai'n cymryd 135 mlynedd i inswleiddio pob cartref yng Nghymru sy'n dlawd o ran tanwydd.
I'r gwrthwyneb, byddai ein rhaglen inswleiddio brys yn:
- Arbed £600+ y flwyddyn i deuluoedd
- Cynhyrchu £2.2 biliwn i'r economi
- Creu 10,000 o swyddi
- Mynd i'r afael â newid hinsawdd
- Lleihau ein dibyniaeth ar unbenaethau tanwydd ffosil fel Rwsia a Saudi Arabia
- Lleihau'r £67m y flwyddyn y mae GIG Cymru yn ei wario ar salwch sy'n gysylltiedig ag anwydau fel niwmonia.
Cefnogwch ein hymgyrch i gyflwyno Rhaglen Inswleiddio Brys
Llofnodwch isod i alw ar Lywodraeth Lafur Cymru i gefnogi rhaglen inswleiddio brys Democratiaid Rhyddfrydol Cymru fel cam tuag at ddod â thlodi tanwydd i ben yng Nghymru.