Jon Burree
Rhagor am Jon
Ymunodd Jon â'r Blaid Ryddfrydol, fel yr oedd bryd hynny, ym 1980 pan oedd yn yr ysgol. Mae wedi bod yn aelod gweithgar ers hynny. Roedd Jon yn aelod o Gyngor Tref Llanelli o 1991-95, ac mae wedi bod yn Asiant Etholiad Cyffredinol San Steffan deirgwaith ac yn Asiant Etholiad y Cynulliad unwaith. Mae Jon bellach wedi ymddeol ar ôl gofalu am ei fam a'i frawd cyn iddyn nhw farw.
Ers dechrau chwarae rhan o ddifrif yn Nemocratiaid Rhyddfrydol Cymru ym 1993, mae Jon wedi bod mewn sawl swydd. Yn benodol, mae wedi bod yn Ysgrifennydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, aelod o Fwrdd Cymru a'i ragflaenydd NEC Cymru. Mae hefyd wedi bod yn aelod o'r rhan fwyaf o bwyllgorau'r blaid yng Nghymru dros y blynyddoedd yn ogystal â bod yn gynrychiolydd Cymru i Bwyllgor Ffederal y Gynhadledd a Phwyllgor Ffederal Datblygu Pobl.
Rolau:
- Cadeirydd Pwyllgor y Gynhadledd
- Dirprwy Gadeirydd y Bwrdd
- Dirprwy Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol
- Cynrychiolydd y Blaid yng Nghymru i'r Cyngor Ffederal
Plaid leol:
- Sir Gaerfyrddin