Alison Alexander

Rhagor am Alison
Alison Alexander yw Cadeirydd Democratiaid Rhyddfrydol Sir Drefaldwyn a hi oedd ymgeisydd y blaid yn yr etholaeth yn etholiadau'r Senedd yn 2021.
Mae hi'n newyddiadurwr hyfforddedig, yn arddwriaethwr ac yn ecolegydd sy'n siarad Ffrangeg, Sbaeneg a rhywfaint o Tsieinëeg Mandarin. Yn ystod ei gyrfa mae wedi gweithio ym meysydd newyddiaduraeth leol, garddwriaeth fotanegol, a rheoli a hyfforddi gwirfoddolwyr yn y mudiad garddio cymunedol.
Mae'n Gadeirydd BRACE (Meithrin Gwydnwch yn erbyn yr Argyfwng Hinsawdd) yn ei thref gyfagos, Llanfyllin, grŵp sy'n ceisio dod o hyd i atebion lleol i'r argyfyngau bioamrywiaeth a hinsawdd. Mae'r gwirfoddolwyr yn rhedeg gardd gymunedol, perllan, caffi atgyweirio ac oergell gymunedol.