Achub Banc Lloyds Ystradgynlais
Bydd penderfyniad Lloyds i gau ei changen yn Ystradgynlais yn golygu bod tref arall ym Mhowys ar ôl heb fanc. Nid yn un o'n pentrefi llai y mae hyn yn digwydd y tro hwn. Yn hytrach, mae'n digwydd yn yr ail dref fwyaf yn y Sir gyfan sydd â phoblogaeth o dros 8,000.
Ni allwn adael i hyn barhau. Mae angen i fanciau gydnabod bod dyletswydd arnyn nhw i ddarparu gwasanaethau wyneb yn wyneb. Nid yw pawb yn bancio ar-lein, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel Powys.
Fis diwethaf yn unig, cyhoeddodd y banc ei fod bron wedi dyblu ei elw i £1.8 biliwn. Dylai banciau fel Lloyds ddangos rhywfaint o deyrngarwch i’w cwsmeriaid mewn ardaloedd gwledig.
Mae gan yr holl fanciau hyn bolisïau amrywiaeth a chynhwysiant, ond nid yw'r rhain yn ystyried yr henoed na'r rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol yn ôl pob golwg.
Yn fwy rhwystredig, gwrthwynebodd y ddau Aelod Seneddol Ceidwadol ym Mhowys ddarn arfaethedig o ddeddfwriaeth fis Rhagfyr y llynedd a fyddai wedi sicrhau bod modd cael mynediad at arian parod mewn ardaloedd gwledig. Unwaith eto, mae ein AS lleol wedi methu â chynrychioli buddiannau ei Hetholwyr ac rydym i gyd yn teimlo'r effaith.
Bydd Jane Dodds AS a David Chadwick yn cyflwyno llofnodion i Fanc Lloyds.
Cefnogwch ein hymgyrch i Achub y Banc
Llofnodwch isod ac ychwanegwch eich llais at y rhai sydd am achub y banc!