![[Translate to Welsh:] Welsh and English rugby players during a match](/fileadmin/_processed_/8/0/csm_21767048651_4742e8a98d_o_c3fe65103f.jpg)
Cadwch y Chwe Gwlad ar deledu am ddim
Cefnogwch ymgyrch Dem Rhydd Cymru i gadw ein rygbi yn rhydd i'w wylio
Gyda hoff bencampwriaeth rygbi'r genedl dan fygythiad o ddiflannu i sianel deledu â thâl, mae Dem Rhydd Cymru'n brwydro i gadw'r Chwe Gwlad ar deledu am ddim.
Byddai gosod rhwystrau i wylio rygbi rhyngwladol yn cael effaith enfawr ar lefelau diddordeb yn ein camp genedlaethol. Gall gytundeb masnachol hefyd olygu na fyddai gemau'n cael eu darlledu â sylwebaeth cyfrwng Cymraeg.
Helpdd y Dem Rhydd ennill y frwydr hon degawd yn ôl, gyda dros 5,000 o bobl yn ymuno â'n hymgyrch yn 2015 yn erbyn y bygythiad hwnnw. Nawr rydym yn brwydro i gategoreiddio pencampwriaethau'r dynion a'r menywod yn yr un modd cyfreithiol â gemau'r Olympaidd a ffeinal yr FA Cup, i amddiffyn darllediad am ddim am ddegawdau i ddod.
A wnewch chi ymuno â'n hymgyrch i gadw'r Chwe Gwlad ar deledu am ddim?
Arwyddwch: Cadwch y Chwe Gwlad ar deledu am ddim
Rwy'n galw ar Lywodraeth y DU i amddiffyn yn y gyfraith darllediad am ddim pencampwriaethau Chwe Gwlad y Dynion a'r Menywod.
Delwedd: Marc (CC BY-NC-ND 2.0)