Pontypridd Cynon Merthyr
Mae Pontypridd Cynon Merthyr yn etholaeth newydd y Senedd sy’n cwmpasu etholaethau San Steffan Merthyr Tudful a Aberdâr a Phontypridd
1) Neil Feist
Mae Neil wedi byw yn Llanharan ers 2006, gyda chefndir mewn addysg awyr agored ac profiad o redeg busnesau bach.
Mae Neil wedi bod yn Gynghorydd Cymunedol gweithgar iawn ers 2022 ac wedi ymgyrchu ar sawl mater, gan gynnwys mynediad at goedwigoedd lleol er lles a llesiant, y ffordd osgoi Llanharan a gwelliannau i’r seilwaith lleol. Mae hefyd wedi ymladd dros hawliau pobl fregus a phobl anabl, cyfraddau treth gyngor teg a gwell gwasanaethau cyhoeddus, megis iechyd ac addysg, i drigolion RCT.
Facebook: facebook.com/neilfeist2022
X (gynt Twitter): @LlanharanNeil
Tik Tok: @neilfeist
2) David Seale
Ganwyd a magwyd David yn Ne Cymru cyn i’w deulu symud i Swydd Efrog, lle cwblhaodd ei addysg. Dychwelodd i Gymru i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, lle cyfarfu â’i bartner o Ferthyr Tudful. Maent wedi byw gyda’i gilydd yn Abercanaid ers 2006.
Mae David wedi gweithio mewn amryw o sectorau, gan gynnwys addysg oedolion gyda chymdeithas leol elusennol, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio mewn cymorth technegol yn y diwydiant telathrebu. Yn ei amser hamdden, mae’n gwirfoddoli mewn rheilffordd dreftadaeth ac yn mwynhau heicio yng nghefn gwlad leol.
Daeth yn rhan o’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ystod ymgyrch Brexit ac mae’n frwd dros gydweithredu rhyngwladol, lles anifeiliaid, a chryfhau cymunedau lleol. Mae David yn ymrwymedig i fynd i’r afael â sbwriel, ymddygiad gwrthgymdeithasol a chamddefnydd beiciau modur oddi ar y ffordd, ac mae’n cefnogi’n gryf fwy o fuddsoddiad mewn heddlu cymunedol.