Yr Arglwydd Martin Thomas o Gresford
Yr Arglwydd Thomas o Gresford, Twrnai Cyffredinol yr Wrthblaid
Ganwyd Martin Thomas ar 13 Mawrth 1937 yn Wrecsam, gogledd Cymru ac fe’i addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Grove Park a Peterhouse, Caergrawnt (MA, LLB Y Clasuron a'r Gyfraith). Mae wedi dilyn gyrfa broffesiynol gyfreithiol yn bennaf ac yntau wedi’i benodi’n Gyfreithiwr ym 1961, Darlithydd y Gyfraith ym 1966 - 68, Bargyfreithiwr ym 1967 ac yn Gwnsler y Frenhines ers 1979.
Penodwyd Martin yn Gofiadur Llys y Goron ym 1976 ac yn Ddirprwy Farnwr yr Uchel Lys ym 1985. Daeth yn un o feincwyr Gray's Inn ym 1991, a bu'n aelod o'r Bwrdd Anafiadau Troseddol rhwng 1985 a 1993. Mae hefyd wedi bod yn Gyfarwyddwr cwmni radio annibynnol Marcher Sound Limited ers 1982 ac yn Gadeirydd arno rhwng 1991 a 2000. Bu’n gynghorydd i Athrofa Dwyrain Asia ym Mhrifysgol Caergrawnt o 1998 ac yn Noddwr Cynadleddau Cyfraith Tsieina yng Nghaergrawnt rhwng 1998 a 2001.
Bu Martin yn ymgeisydd i'r Blaid Ryddfrydol wyth gwaith, a hynny ym mhob etholiad rhwng 1964 a 1987. Bu'n gadeirydd Plaid Ryddfrydol Cymru rhwng 1969 a 1974 ac yn Llywydd arni rhwng 1977 a 1979. Bu'n Llywydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru rhwng 1993 a 1996. Cafodd ei urddo’n Arglwydd am Oes ym 1996. Bu'n llefarydd ar y Democratiaid Rhyddfrydol yn Nhŷ'r Arglwyddi ar Faterion Cymreig a Materion Cartref ac yn Aelod o'r Comisiwn ar Drefniadau Etholiadol Llywodraeth Leol yng Nghymru. Ym mis Rhagfyr 2006, penodwyd Martin yn Arglwydd Ganghellor yr Wrthblaid gyda chyfrifoldeb dros oruchwylio Swyddogion y Gyfraith a diwygiadau cyfreithiol. Yn 2007 penodwyd Martin yn Dwrnai Cyffredinol yr Wrthblaid.
Ar hyn o bryd, Martin yw Cyd-gadeirydd Pwyllgor y Democratiaid Rhyddfrydol ar Faterion Cartref, Cyfiawnder a Chydraddoldeb (y Weinyddiaeth Gyfiawnder).
Mae ei ddiddordebau’n cynnwys Diwygio'r Gyfraith (cyfiawnder troseddol, hawliau dynol), Materion y Dwyrain Pell (Hong Kong a Tsieina), Chwaraeon (rygbi, rhwyfo, dringo bryniau, pysgota, golff), Cerddoriaeth (piano, telyn, canu corawl - Llywydd Corâl Cymru Llundain, aelod o’r Côr Seneddol), Theatr (Theatr Fach Wrecsam) a Chadwraeth (Capercaillie yn yr Alban). Mae hefyd yn dod o hyd i amser ar gyfer gweithgareddau lleol. Mae'n Llywydd Ymddiriedolaeth Goffa Gresford, Cyfeillion Eglwys Plwyf Gresford a Chyfeillion Ysbyty Maelor Wrecsam, ac mae’n is-lywydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Mae’n aelod o'r Reform Club, Western (Glasgow), Clwb Rygbi Wrecsam a Chlwb Rhwyfo Rex. Mae'n hyfforddwr a dyfarnwr cymwys gydag URC a bu'n gapten yr Dîm yr Arglwyddi yn Ras Gychod Wyth mewn Cwch rhwng Tŷ’r Arglwyddi a Thŷ'r Cyffredin yn 2007.
Yn 2015 fe'i benodwyd yn Dwrnai Cyffredinol yr Wrthblaid ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol.