Elgan Morgan

Cydlynydd y Blaid

[Translate to Welsh:] Elgan Morgan

Rhagor am Elgan

Mae Elgan yn dod o Ddyffryn Aman yn wreiddiol ond mae wedi byw yng Nghaerdydd ers dros 25 mlynedd. Mae wedi bod yn aelod ac yn actifydd gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ers amser maith.

Bu'n gynghorydd ar Gyngor Caerdydd am wyth mlynedd, rhwng 2004 a 2012, ac mae wedi gweithio i Jenny Randerson yn y gorffennol. Tan yn ddiweddar bu'n Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus Siambr Fasnach De Cymru.

Mae Elgan yn hynod gyfarwydd â’r blaid yng Nghymru ar ôl bod mewn sawl rôl gan gynnwys Cadeirydd Pwyllgor y Gynhadledd ac yn yn un o gadeiryddion lleol y blaid. Dros y blynyddoedd mae wedi ymgyrchu ar hyd a lled Cymru gan gynnwys yn is-etholiadau Brycheiniog a Maesyfed, Gorllewin Casnewydd, ac ym Mlaenau Gwent yn 2006, yn ogystal â chymryd rhan mewn diwrnodau gweithredu mewn mannau fel Bangor ac Abertawe.

Ei gyfrifoldebau:

  • Datblygu a chynnal cyfathrebu mewnol,
  • Creu cynnwys cyfathrebu mewnol,
  • Cefnogi a chydlynu gweithgareddau pwyllgorau'r blaid,
  • Datblygu a rheoli systemau ar gyfer prosesau allweddol y blaid (e.e. cymeradwyo ymgeiswyr),
  • Datblygu, cynnal a rheoli tîm o wirfoddolwyr i gefnogi gweithgareddau'r Blaid a'r Arweinydd.

 

Cysylltwch â ni:

Ebost: elgan.morgan@libdems.wales

This website uses cookies

Please select the types of cookies you want to allow.

These are necessary for the website to function properly.
These help us to understand how our visitors use our website.
These allow us to display content from other websites that track you for advertising purposes.
Administrator preview
Live version at www.libdems.wales