Achub Deintyddiaeth y GIG yng Nghymru
Mae deintyddiaeth GIG yng Nghymru mewn sefyllfa enbyd, ac mae rhai arbenigwyr wedi dweud y gallai'r gwasanaeth ddiflannu’n llwyr o fewn ychydig flynyddoedd os na fydd pethau'n newid.
Mae Gweinidogion Llafur ym Mae Caerdydd wedi methu'n llwyr â mynd i'r afael â'r broblem, gan olygu bod system ddeintyddiaeth ddwy haen wedi ffynnu yng Nghymru. Yn y system hon, mae'r rhai sydd â'r arian, yn mynd yn breifat, ond mae pawb arall yn gorfod byw mewn poen am fisoedd, os nad blynyddoedd mewn rhai achosion.
Dyna pam rydym wedi cynnig cynllun manwl i achub deintyddiaeth y GIG yng Nghymru a gwneud yn siŵr bod gwasanaethau deintyddol ar gael i bawb pan fo angen. Mae'r cynllun llawn i'w weld YMA
Cefnogwch Ein Cynllun i Achub Deintyddiaeth y GIG yng Nghymru
Llofnodwch isod i ddatgan eich cefnogaeth i gynlluniau Democratiaid Rhyddfrydol Cymru i achub deintyddiaeth y GIG yng Nghymru.