Dod â Gwaredu Carthion i Ben yng Nghymru
Cafodd carthion amrwd eu gwaredu yn afonydd, llynnoedd a moroedd Cymru ar dros 100,000 o achlysuron y llynedd am bron i 900,000 o oriau. Mae'r carthion hyn yn lladd bywyd gwyllt ac yn peryglu iechyd y cyhoedd.
Ac eto, dyfarnwyd taliadau bonws o £931,000 i benaethiaid Dŵr Cymru yn yr un cyfnod, er bod Dŵr Cymru yn gwmni 'nid-er-elw'.
Mae gan y Ceidwadwyr yn San Steffan a chlymblaid Llafur-Plaid Cymru ym Mae Caerdydd y pŵer i atal yr arfer erchyll hwn, ond maen nhw'n parhau i adael i gwmnïau dŵr wneud beth bynnag maen nhw eisiau.
Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru am weld y canlynol yn digwydd:
- Taliadau bonws i benaethiaid cwmni dŵr yn cael eu gwahardd a'r arian yn cael ei ailgyfeirio i wella seilwaith.
- Llywodraeth Cymru yn rhoi'r cyllid a'r adnoddau sydd eu hangen ar Gyfoeth Naturiol Cymru i fynd i'r afael â llygredd a'i fonitro'n effeithiol.
- Mwy o gyfleusterau tynnu ffosffad yn cael eu gosod yn ein hafonydd.
- • Deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno i wahardd cwmnïau dŵr rhag gollwng carthion amrwd yn ein dyfrffyrdd.
Llofnodwch ein deiseb isod i fynnu bod Llafur Cymru yn y Senedd a'r Ceidwadwyr yn San Steffan yn cymryd camau nawr i achub Dyfroedd Cymru a chyflwyno deddfwriaeth i atal carthion rhag cael eu gollwng yn ein hafonydd, ein llynnoedd a'n moroedd!
Dod â Gwaredu Carthion i Ben yng Nghymru
Cefnogwch ein cynlluniau i amddiffyn ein hafonydd, ein llynnoedd a'n harfordir rhag carthion.