Cymorthfeydd a gynhelir cyn bo hir
Mae cymorthfeydd cyngor yn gyfleoedd i etholwyr ddod i siarad â mi am unrhyw faterion neu broblemau personol sydd ganddynt. Mae fy ngweithwyr achos a minnau yn cymryd manylion y problemau cyn mynd ati i wneud ymholiadau yn eu cylch. Mae cymorthfeydd cyngor ar gyfer etholwyr yn unig.
Mae’r lleoliad a’r diwrnod a’r amser y cynhelir y cymorthfeydd cyngor yn amrywio ar draws yr etholaeth fel eu bod o fewn cyrraedd i gynifer o etholwyr â phosibl dros gyfnod o amser. Yn anffodus, am resymau ymarferol, mae'n anodd cyhoeddi'r holl fanylion ymlaen llaw weithiau.
Rwy'n cynnal system sy’n seiliedig ar apwyntiadau. I gael apwyntiad, ebostiwch jane.dodds@senedd.cymru neu ffoniwch fy swyddfa - 0300 200 7231.
Os nad oes cymhorthfa gyngor cyn bo hir, mae’n bosibl y bydd modd trefnu cyfarfod yn uniongyrchol gyda chi. Cysylltwch â'm swyddfa drwy ddefnyddio'r ebost a'r rhif uchod.
Bydd fy staff yn gofyn am eich enw, manylion cyswllt a chyfeiriad, yn ogystal â manylion y mater rydych chi am ei drafod gyda mi. Y ffaith nad oes digon o gymorthfeydd i fodloni pawb yw’r rheswm am hyn, felly rydym am wneud y defnydd gorau o'ch amser chi (a fy amser innau) trwy wneud ymchwil ragarweiniol cyn i chi gwrdd â mi. Gall hyn olygu cysylltu â thrydydd partïon cyn cwrdd â chi i gael eu barn ar y sefyllfa.
Mewn achos brys, neu os oes rhesymau pam na allwch roi manylion dros y ffôn neu'n ysgrifenedig, fe wnaf fy ngorau i drefnu amser ar eich cyfer cyn gynted ag y gallaf.
Os nad yw'n bosibl cwrdd â chi - er enghraifft, os nad oes unrhyw apwyntiadau ar gael mewn cymorthfeydd am beth amser - efallai y byddaf yn gofyn ichi gwrdd ag un o fy ngweithwyr achos. Bydd ef neu hi yn cymryd nodiadau, yn gofyn cwestiynau, yn edrych ar unrhyw waith papur sydd gennych ac yn adrodd yn ôl i mi.
Os oes gennych chi anghenion arbennig, rhowch wybod imi ar unwaith er mwyn inni allu addasu i'ch anghenion ym mha bynnag ffordd bosibl.