[Translate to Welsh:] A picture of Mike Hamilton

CHTh Gwent - Mike Hamilton

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi cyhoeddi mai Mike Hamilton yw eu hymgeisydd ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent yn etholiad Mai 2024 sydd i ddod.

Wrth sôn am gael ei ddewis yn ymgeisydd, dywedodd Mike Hamilton:

"Mae Heddlu Gwent yn sefydliad sy'n methu. Nid yw’r cyhoedd yn ymddiried ynddo oherwydd ei lu o fethiannau. O ganlyniad i’w ddiwylliant hen ffasiwn, neu’r canteen culture, mae nifer wedi bod yn destun ymchwiliad am gamymddygiad difrifol, ac mae llawer yn ymddiswyddo cyn bod modd eu diswyddo. Mae rhai wedi galw am iddo gael ei roi o dan fesurau arbennig neu’n destun ymchwiliad annibynnol. Mae'r sefydliad yn destun nifer o ymchwiliadau parhaus o hyd, gan gynnwys un i'r diwylliant gwenwynig a amlygwyd yn y negeseuon testun a roddwyd i bapur newydd y Times. Cafwyd adroddiad damniol gan Arolygiaeth yr Heddlu yn 2023 a ddatgelodd lu o fethiannau.

Ond nid oes angen Arolygiaeth yr Heddlu na'r cyfryngau arnoch i wybod bod Heddlu Gwent yn methu - mae’r methiannau i’w gweld yn glir. Roedd fy ward yn ninas Casnewydd yn ardal dawel a diogel ddegawd yn ôl, ond mae’n teimlo fel bod yr heddlu wedi anghofio amdani erbyn hyn. Pan godir materion, mae ymateb yr heddlu yn drahaus ac yn nawddoglyd.

Os caf fy ethol:

  • Bydd y Prif Gwnstabl newydd yn cael ei recriwtio o'r tu allan i'r heddlu;
  • Byddwn yn ailgyflwyno plismona cymunedol h.y. siarad â'r cyhoedd yn hytrach na chuddio rhagddynt, yn ogystal ag annog cynlluniau Gwarchod y Gymdogaeth;
  • Byddwn yn ymchwilio i bob trosedd, gan fod delio â mân droseddau yn lleihau troseddau yn gyffredinol;
  • Mae angen gweddnewid pethau ar lefel yr uwch reolwyr, fel y nodwyd yn adroddiad yr Arolygiaeth yn 2023;
     
  • Mae angen i’r gweithdrefnau fetio wrth recriwtio fod yn addas i’r diben; nid ydym am gael unrhyw achos tebyg i Wayne Couzens yma;
  • Byddwn yn ystyried a oes modd ailagor desgiau blaen gorsafoedd heddlu, gan fod angen i’r heddlu a’r cyhoedd fod mewn cysylltiad uniongyrchol;
     
  • Byddwn yn rhoi trefn ar lanast rhif ffôn 101, gan nad yw'n addas o gwbl ar hyn o bryd;
  • Byddwn yn dyrannu mwy o adnoddau i ddatrys troseddau. Mae cyfradd euogfarnau Heddlu Gwent yn warthus."

This website uses cookies

Like most websites, this site uses cookies. Some are required to make it work, while others are used for statistical or marketing purposes. If you choose not to allow cookies some features may not be available, such as content from other websites. Please read our Cookie Policy for more information.

Essential cookies enable basic functions and are necessary for the website to function properly.
Statistics cookies collect information anonymously. This information helps us to understand how our visitors use our website.
Marketing cookies are used by third parties or publishers to display personalized advertisements. They do this by tracking visitors across websites.
Administrator preview
Live version at www.libdems.wales