Ein Llinellau Coch
Ni fydd gan unrhyw un blaid fwyafrif yn y Senedd nesaf.
Bydd gan Ddem Rhydd Cymru lond dwrn o ASau i ddylanwadu ar gyfeiriad y llywodraeth nesaf. Byddwn ond yn cefnogi llywodraeth sy’n dal at ein llinellau coch, sef:
Amddiffyn y GIG
Drwy fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol â phecyn gwerth o leiaf £300m i’r sector, er mwyn helpu ysbytai i ganolbwyntio ar drin cleifion a lleihau rhestrau aros.
Achub ein siopau lleol
Drwy gadw unrhyw gymorth ardrethi busnes yn ei le a dechrau adolygiad ar ddiwygio neu newid y system ardrethi busnes, i’w orffen o fewn y tymor Senedd hwn.
Afonydd a moroedd glân
Drwy arian ychwanegol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru a gwaharddiad ar fonysau cwmnïoedd dŵr nes i ollyngiadau carthion orffen.
Atal annibyniaeth
Cadw ffocws Cymru ar yr hyn sy’n bwysig i’n bywydau bob dydd, gyda dim un geiniog yn cael ei wario ar baratoi tuag at annibyniaeth.
Cychwyn orau i bob plentyn
Drwy roi pecyn cyffredinol gofal plant mewn lle gyda 30 awr am ddim, 48 wythnos y flwyddyn, i bob plentyn o 9 mis i 4 mlwydd oed.