Sir Gaerfyrddin
Sir Gaerfyrddin yw etholaeth newydd i’r Senedd sy’n cynnwys etholaethau San Steffan Caerfyrddin a Llanelli
1) Justin Griffiths
Mae Justin yn byw yn ei dref enedigol, Llanelli. Mae’n briod ac mae ganddo ddau fab o briodas flaenorol. Ar ôl graddio o Brifysgol Aston gyda gradd mewn peirianneg gemegol, bu’n gweithio am 27 mlynedd yn British Steel (TATA), gan dreulio 25 o’r blynyddoedd hynny ym Mhort Talbot, cyn cael ei wneud yn orfodol ddi-waith yn 2016 yn 50 oed. Mae Justin yn falch ac yn llawen o gael cynrychioli Democratiaid Rhyddfrydol Cymru dros etholaeth newydd Sir Garfyrddin yn etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf.
2) Julian Tandy
Mae Julian wedi byw ym Mhenygroes, Sir Gaerfyrddin ers dros 20 mlynedd gyda’i wraig a’i blant, ac ef yw Cadeirydd presennol Cyngor Cymuned Llandybïe, yn cynrychioli Ward Penygroes. Mae Julian yn gyn-swyddog yn y Llynges Fasnachol ac ers hynny mae wedi bod yn ymwneud â TG, gan gynnwys adeiladu a rhedeg mewnrwyd Ewropeaidd Nissan Motors.
Yn Rhyddfrydwr gydol oes (roedd ei daid yn Faer Rhyddfrydol yn Warwick ar ôl yr Ail Ryfel Byd), mae Julian yn hyrwyddwr cryf dros hawliau a materion lleol ac yn edrych ymlaen at gynrychioli Sir Gaerfyrddin yn y Senedd.
3) Jon Burree
Mae Jon wedi byw yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin ar hyd ei oes ac mae wedi bod yn aelod o’r Blaid Ryddfrydol/Democratiaid Rhyddfrydol ers yn 17 oed. Yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd mewn gwleidyddiaeth, mae Jon yn gyn-diwtor sgiliau sylfaenol dan hyfforddiant ac yn gyn-wasanaeth sifil gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Fe’i hetholwyd yn aelod o Gyngor Cymuned Llannon yn 2025, ar ôl bod yn aelod o Gyngor Tref Llanelli rhwng 1991 a 1995. Safodd Jon ar gyfer y Senedd yn etholiadau 2021 ar gyfer etholaeth Llanelli ac mae’n falch o sefyll eto ar gyfer etholaeth newydd y Senedd, Sir Gaerfyrddin. Os caiff ei ethol, bydd Jon yn ymladd yn galed i sicrhau bod holl gymunedau niferus Sir Gaerfyrddin yn cael eu clywed ym Mae Caerdydd, boed yn wledig neu’n drefol.
4) Lynne Wilkins
Ces i fy ngeni yn Sir Montgomery, yn nythfa Gymreig Philadelphia. Agorodd fy nhad ffatri yn Abertawe yn 1956 i hybu adferiad ar ôl y rhyfel, ac fe briodais â dyn lleol o Trap, Llandeilo, 46 mlynedd yn ôl.
Rydw i wedi bod yn ymarferydd Techneg Alexander ers 40 mlynedd, gan ddelio â phoen cefn a phroblemau cydbwysedd. Bues hefyd yn Swyddog Prosiect Cyfle Cyfartal ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, ac yn Ymwelwraig/Mentor Annibynnol i NSPCC. Fy mhrif bryderon yw canlyniadau cleifion yn y GIG a chodi safonau cymwysterau ymhlith pobl ifanc. Ar hyn o bryd, gyda chyd-gynghorwyr cymuned Llandybie eraill, rwy’n mynd i’r afael ag amrywiaeth eang o bryderon a materion lleol.