Dod â Thwll Du Maes Awyr Caerdydd i Ben
Mae gweinyddiaeth Llafur Cymru a Phlaid Cymru wedi gadael i Faes Awyr Caerdydd ddod yn dwll du o arian trethdalwyr ac mae wedi costio dros £219 miliwn i'r cyhoedd ers 2013.
Dychmygwch beth allai £219 miliwn fod wedi'i wneud ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru gyfan?
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a arweiniodd yr ymgyrch yn erbyn penderfyniad y Llywodraeth i brynu'r maes awyr yn 2013. Erbyn hyn rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati'n ddiymdroi i amlinellu eu cynlluniau i ddod â dibyniaeth y maes awyr ar incwm trethdalwyr i ben.
Cefnogwch ein hymgyrch i Ddod â Thwll Du Maes Awyr Caerdydd i Ben
Llofnodwch isod i ychwanegu eich enw at ymgyrch Democratiaid Rhyddfrydol Cymru sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati'n ddiymdroi i amlinellu eu cynlluniau i ddod â dibyniaeth y maes awyr ar incwm trethdalwyr i ben