[Translate to Welsh:] A picture of Sam Bennett

CHTh De Cymru - Sam Bennett

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi cyhoeddi mai Cyng Sam Bennett yw eu hymgeisydd ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru yn etholiad Mai 2024 sydd i ddod.

Wrth sôn am gael ei ddewis yn ymgeisydd, dywedodd Sam Bennett:

"Fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, fy mhrif flaenoriaeth fydd adfer ffydd, cysylltiadau ac ymgysylltiad cymunedol ar draws ardal Heddlu De Cymru.

Rhaid inni adennill ffydd y gymuned yn ein heddlu yn dilyn yr aflonyddwch yn Abertawe a Chaerdydd dros y 5 mlynedd diwethaf. Byddaf yn ceisio gwrthdroi toriadau i gyllid ar gyfer ymyriadau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Rwyf hefyd am flaenoriaethu gweithgareddau allgymorth mewn cymunedau ac ysgolion i adeiladu pontydd ar draws ein cymunedau, gan olygu bod ein heddlu i’w gweld ar ein strydoedd unwaith eto.

Byddaf yn lleihau nifer y Dirprwy Gomisiynwyr ar draws Heddlu De Cymru, ac yn ail-fuddsoddi’r arian mewn plismona ar lawr gwlad. Byddaf hefyd yn ymgyrchu’n frwd dros ddatganoli plismona. Bydd y ddau bolisi hyn yn dod â phlismona yn nes at bobl Cymru. Byddaf yn lansio rhaglen o ymweliadau cymunedol ar unwaith i gael gwybod beth hoffech chi weld yr heddlu yn ei wneud yn eich ardal.

Nawr yw’r amser i fabwysiadu agwedd fwy tosturiol at droseddau cyffuriau. Felly, os caf fy ethol yn Gomisiynydd, byddaf yn blaenoriaethu ac yn gwthio’r ddwy lywodraeth i ganolbwyntio ar raglenni adsefydlu, oherwydd bydd hyn yn lleihau aildroseddu, ac yn lleddfu’r pwysau ar ein system llysoedd.

Fel eich Comisiynydd Heddlu a Throseddu, byddwn yn ceisio dod â’r defnydd o dechnoleg adnabod wynebau i ben gan ei fod yn amharu’n sylfaenol ar hawliau pobl i breifatrwydd ac yn gwahaniaethu yn erbyn poblogaethau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Fe’i defnyddir yn amlach mewn ardaloedd â phoblogaethau lleiafrifoedd ethnig uchel, ond nid yw’n adnabod pobl o'r cefndiroedd hyn yn effeithiol. Rhaid rhoi’r dechnoleg hon o’r neilltu i adennill ffydd ein
cymunedau."

This website uses cookies

Please select the types of cookies you want to allow.

These are necessary for the website to function properly.
These help us to understand how our visitors use our website.
These allow us to display content from other websites that track you for advertising purposes.
Administrator preview
Live version at www.libdems.wales