Cefnogi Ffermio Cymru
Mae ffermwyr ar draws y wlad yn poeni am eu dyfodol. Nhw sy'n gwarchod ein tir a diogelwch bwyd ein gwlad.
Yn ddiweddar maent wedi cael eu bradychu gan Lywodraeth Geidwadol y DU o ganlyniad i addewidion ffug a chytundebau masnach annheg a allai arwain at lenwi marchnadoedd y DU â bwyd o ansawdd isel sy'n tanseilio safonau uchel ffermwyr Cymru o ran yr amgylchedd a lles anifeiliaid.
Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cefnogi ein cynhyrchwyr Cymreig yn erbyn yr ymosodiad hwn ar eu diwydiant.
Cefnogwch ein hymgyrch i Gefnogi Ffermwyr Cymru
Llofnodwch isod i ychwanegu eich llais at y miloedd o bobl eraill ledled Cymru sy'n cefnogi ffermwyr Cymru!