Bangor Conwy Môn
Bangor Conwy Môn yw etholaeth newydd i’r Senedd sy’n cynnwys etholaethau San Steffan Ynys Môn ac Bangor Aberconwy
1) Leena Sarah Farhat
Mae Leena Sarah Farhat wedi gweithio ar draws Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy ac mae’n astudio ar gyfer PhD ym Mhrifysgol Bangor.
Mae hi’n Brydewes cenhedlaeth gyntaf ac yn fenyw ifanc amlieithog. Mae’n ymgyrchydd lleol, gyda blaenoriaethau megis trwsio’r GIG, mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, a sefyll dros faterion gwledig.
2) Rachel Roberts
3) Rob Atenstaedt
Mae Dr Rob Atenstaedt yn Gynghorydd Tref ar gyfer Ward Tudno yn Llandudno. Ef yw dirprwy gadeirydd y Pwyllgorau Gwasanaethau Cymunedol a Thwristiaeth a Dinasyddiaeth, ac yn gynrychiolydd y Cyngor Tref i Amgueddfa Llandudno.
Ganwyd ef ym Mangor, Gwynedd, ac mae ei deulu yn tarddu’n wreiddiol o Gricieth, lle'r oedd ei daid yn arfer magu hwyaid.
Astudiodd ym Mhrifysgol Caergrawnt ac mae’n gweithio fel meddyg yn y GIG. Ym Mehefin 2024, cafodd Wobr Gwasanaeth Hir y GIG am 25 mlynedd o wasanaeth.
4) David McBride
5) Mark Rosenthal
Mae Mark Rosenthal, sy’n byw ar Ynys Mȏn, yn credu’n gryf mewn cyfranogiad lleol a menter gymunedol, gan annog llai o ddibyniaeth ar y wladwriaeth a mwy o gyfranogiad cydweithredol wrth osod nodau lleol a rhyngwladol. Mae Mark yn galw am rannu buddsoddiad isadeiledd yn fwy teg yng Ngogledd Cymru er mwyn cynyddu creu swyddi’n sylweddol a chefnogi economi cyflog uwch i gryfhau ein CMC isel iawn. Mae’n cefnogi’n gryf y prosiect SMNR a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn Wylfa ynghyd â’r cynlluniau ynni gwyrdd eraill ar Ynys Mȏn, cyn belled nad yw’r rhain yn peryglu tir amaethyddol gwerthfawr.
Fel peiriannydd sifil gyda phrofiad helaeth mewn adeiladu a TG, mae gan Mark arbenigedd mewn rheoli prosiectau mawr a chefnogi busnesau lleol. Mae’n ymroddedig i sicrhau llywodraethu lleol effeithiol a gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel ac effeithiol o ran cost ar Ynys Mȏn.