Glyn Preston
Swyddog Datblygu
Rhagor am Glyn
Ymunodd Glyn â'r blaid pan oedd yn y brifysgol yn 2019. Mae wedi bod yn ymwneud â'r blaid yng Nghymru byth ers hynny, ac mae wedi gweithio fel Trefnydd ac yn y Senedd. Ar ôl cael ei ethol yn Gynghorydd yn 2022, mae Glyn bellach yn Swyddog Datblygu Cymru. Mae'r swydd hon yn cael ei hariannu'n rhannol a’i rheoli gan Gymdeithas Cynghorwyr y Democratiaid Rhyddfrydol (ALDC).
Ei gyfrifoldebau:
- Cynnal sesiynau hyfforddi i aelodau'r blaid ar ymgyrchu, codi arian, estyn allan at bleidleiswyr a sgiliau perthnasol eraill.
- Gweithio gydag arweinwyr lleol y blaid i baratoi cynllun strategol ar gyfer cynyddu nifer yr aelodau, ehangu sylfaen rhoddwyr, ac adeiladu seilwaith y blaid.
- Cynghori a chynorthwyo cynghorwyr lleol a grwpiau mewn cynghorau ar faterion polisi, cyfathrebu a gweithio'n effeithiol.
- Cefnogi ymgyrchoedd is-etholiadau cynghorau lleol
Cysylltwch â ni:
Ebost: glyn.preston@aldc.org